CELG(4) HA 33

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref

 

Ymateb gan : Llywodraeth Cymru, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

 

Tystiolaeth Ysgrifenedig i Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Addasu Cartrefi

 

1.    Rwy’n croesawu’r cyfle i gyflwyno tystiolaeth i Ymchwiliad y Pwyllgor a byddaf yn cyfeirio at ei gylch gorchwyl yn y drefn y’u nodwyd yn llythyr y Cadeirydd dyddiedig 11 Rhagfyr 2012.

 

§  Pam mae amrywiadau arwyddocaol o hyd yn yr amser y mae’n ei gymryd i gyflenwi cymhorthion ac addasiadau wedi’u hariannu gan Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ledled Cymru;

 

2.    Roedd adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan CEL Transform ym mis Hydref 2010, a gomisiynwyd i ymateb i Adroddiad 2009 y Pwyllgor Cyfle Cyfartal, yn cyflwyno darlun cadarnhaol ar y cyfan a daeth i’r casgliad y buasai “gwelliant cyson ac arwyddocaol o ran yr amser roedd yn ei gymryd ar gyfartaledd i brosesu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ledled Cymru”. Hefyd roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith fod mwy o bwyslais ar ansawdd y gwasanaeth oedd yn cael ei roi gyda mwy o sylw’n cael ei roi i  gael “cydbwysedd rhwng cyflymder, cyfranogi/rheolaeth y cwsmer ac ansawdd y canlyniad”.

 

3.    Er fy mod yn cydnabod bod y sefyllfa’n amrywio ledled Cymru, ar y cyfan, mae amseroedd cyflenwi ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi gwella’n gyffredinol ac maen nhw’n dal i wella. Y duedd gyffredinol ledled Cymru yw bod y cyflenwi’n gyflymach. Mae’r amser y mae’n ei gymryd i gyflenwi Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl fel y’i mesurir gan y Dangosydd Perfformiad sefydledig (h.y. nifer y diwrnodau a gymer i gwblhau Grant Cyfleuster i’r Anabl) yn dangos gwelliant o 45% ers 2006. Mae’r amser cyfartalog wedi lleihau o 593 diwrnod i lawr i 325 diwrnod. Golyga hyn fod yr amser cyfartalog i gwblhau Grant Cyfleuster i’r Anabl ymhell o fewn y terfyn amser statudol a nodir yn neddfwriaeth Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996).

 

4.    Cafodd y Dangosydd Perfformiad ei hun:

 

·         ei ddatblygu ar y cyd ag ymarferwyr o’r awdurdodau lleol;

·         mae’n mesur y broses o’r dechrau i’r diwedd, sy’n adlewyrchu profiad y cleient; ac

·         mae’n annog awdurdodau lleol i gymryd cyfrifoldeb corfforaethol dros gyflenwi Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn hytrach nag ar lefel adrannau unigol.

 

5.    Yn ogystal, mae angen ei gwneud hi’n glir hefyd nad yr awdurdodau lleol sy’n achosi’r oedi bob amser naill ai wrth asesu anghenion person neu wrth brosesu ceisiadau am grantiau. Mae achosion lle’r achoswyd oedi gan y rhai sy’n derbyn y grantiau eu hunain oherwydd iddyn nhw gymryd amser ychwanegol i benderfynu a fyddent yn cael y gwaith wedi’i wneud oherwydd y tarfu sydd ynghlwm wrtho. Mae oedi’n digwydd hefyd pan fydd person yn penderfynu peidio â defnyddio adeiladwr wedi’i gymeradwyo y mae’r awdurdod lleol yn ei awgrymu ac yn cymryd amser i ddod o hyd i’w gontractwr ei hun i wneud y gwaith sydd ei angen. Gan fod y llinell amser yn dechrau pan gaiff yr ymholiad cyntaf ei wneud, mae’r oedi hwn yn cael ei adlewyrchu yng nghyfanswm yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r gwaith. Mae angen inni edrych yn gytbwys ar y mater hwn a chydnabod y gwaith caled y mae’r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi’i wneud i ostwng yr amserau aros ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

6.    At hyn, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fenter untro yn 2011-12 ar ffurf Grant Byw’n Annibynnol. Sicrhawyd £1.5 miliwn i dalu am addasiadau i bobl a oedd naill ai ar restr aros am Grant Cyfleuster i’r Anabl neu a oedd ag angen gwaith wedi’i wneud er mwyn dychwelyd adref o’r ysbyty. Cyflenwyd y grant drwy Gofal a Thrwsio yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, nid oedd yn dibynnu ar brawf modd ac roedd hyd at uchafswm o £10,000 ar gael. Oherwydd i’r grant fod mor llwyddiannus sicrhawyd £1 filiwn arall i’w ariannu ar ddiwedd 2012-13. Mae llwyddiant y grant a’r nifer sydd wedi manteisio arno wedi gwneud inni ystyried sut gellid ei ariannu yn y dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn edrych arno yng nghyd-destun adolygiad y gwasanaethau addasu a gyhoeddwyd yn y Papur Gwyn ar Dai’r llynedd.

 

§  A oes digon o gynnydd wedi cael ei wneud o ran gweithredu argymhellion o adroddiad y Pwyllgor Cyfle Cyfartal ar addasiadau cartrefi;

 

Mân Addasiadau

 

7.    Mae’r cynnydd wedi bod yn dda dros amryw o feysydd gan gynnwys cyflenwi Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl y cyfeirir atynt uchod. Hefyd gwnaed cynnydd arwyddocaol o ran cyflenwi mân addasiadau. Mae llawer mwy o eitemau syml yn cael eu darparu bellach y tu hwnt i system fwy cymhleth Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl statudol ac mae hyn yn arfer gyffredin ymysg mwyafrif yr awdurdodau lleol. Argymhellodd adroddiad annibynnol 2005 ar gyflenwi addasiadau a Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl mai dyma’r ffordd i fynd ati.

 

Arfer dda

 

8.    Mae hi’n gwbl amlwg fod digonedd o wybodaeth arfer dda ar gael i awdurdodau lleol, a chadarnhaodd yr adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan CEL Transform ym mis Hydref 2010 mai dyna fel y mae hi. Yn ogystal â chanllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru (Atodiad D newydd i Gylchlythyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20/02), mae gennym yr Adroddiadau Meincnodi, a gafodd eu diwygio gan CLlLC yn 2009. Hefyd mae awdurdodau lleol yn cyfnewid gwybodaeth yn anffurfiol a thrwy ddulliau mwy ffurfiol fel Panel Technegol Penaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru gyfan. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a chyrff cynrychioliadol eraill i sicrhau bod enghreifftiau o arfer dda’n cael eu cylchredeg yn eang a’u cyfeirio’n effeithlon.

 

Cyhoeddusrwydd

 

9.    Mae’n ymddangos fel petai’r rhai sy’n derbyn Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn fodlon iawn ond mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd pawb a allai elwa arno a dyma ran o’r rheswm pam rydym yn darparu arian craidd ar gyfer gwasanaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru. Mae ansawdd y wybodaeth y mae awdurdodau lleol yn ei rhoi fel y prif asiantau cyflenwi yn hanfodol. Mae’n galondid gweld yr enghreifftiau o waith da fel y sioeau teithiol a digwyddiadau cyhoeddusrwydd fel wythnos Gofal a Thrwsio, y digwyddodd yr olaf o’r rhain yn gymharol ddiweddar. Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y mynediad hwn i wybodaeth yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol bresennol sydd ohoni. Codwyd ymwybyddiaeth am y gwasanaeth sydd ar gael hefyd gan y daflen a gynhyrchwyd ar y cyd gan Age Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru a Choleg y Therapyddion Galwedigaethol yn benodol i Gymru. Roedd y daflen yn ychwanegu at y wybodaeth a gyhoeddwyd gan Age UK yn ehangach.

 

Cofrestri Tai a Addaswyd

 

10.  Mae Llywodraeth Cymru o’r farn o hyd na fyddai un gofrestr tai Genedlaethol yn fuddiol. Eisoes mae tuedd gynyddol tuag at gael cofrestri tai cyffredin o fewn pob awdurdod lleol ar gyfer mynediad i dai cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i sefydlu Cofrestri Tai Hygyrch, sy’n cynnwys cronfeydd data am bobl ac eiddo. Eu prif amcan yw helpu i gyfateb yr eiddo sydd ar gael ag anghenion pobl ag anableddau sy’n chwilio am dai. Yn ogystal, mae potensial iddyn nhw alluogi’r awdurdod i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau presennol (h.y. yr eiddo sydd wedi’i addasu), osgoi gwario diangen ar addasiadau a chynorthwyo wrth gynllunio tai yn y dyfodol. Mae canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar ddyrannu tai yn argymell gwneud hyn gan fod mwy o botensial i gynyddu cyfathrebu a mynediad i dai wedi’u haddasu o fewn y gymuned agos.

 

Gwasanaethau Therapyddion Galwedigaethol

 

11. Mae’n galondid gweld bod nifer y therapyddion galwedigaethol wedi codi yng Nghymru ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad yn 2009. Mae gwybodaeth ar wefan StatsCymru yn dangos bod y therapyddion cyfwerth ag amser llawn wedi codi o 216 yn 2009-10 i 242 yn 2011-12. Hefyd mae gan rai awdurdodau lleol therapyddion galwedigaethol penodol i gartrefi ac mae hyn wedi’u galluogi i gyflymu’r prosesau asesu a cheisiadau am Grantiau Cyfarpar i’r Anabl.

 

Gwasanaethau Cynnal a Chadw Tai

 

12. Mae gan awdurdodau lleol bwerau i roi cymorth ar gyfer cynnal a chadw cartrefi o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002. Mae’r Gorchymyn yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol gyhoeddi polisi adnewyddu tai sy’n nodi pa gymorth sydd ar gael i berchnogion tai yn ei ardal. Mae’r polisïau ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ac maen nhw ar gael ar ffurf crynodeb o ofyn amdanynt. Mae’r rhan fwyaf o’r polisïau sydd wedi’u cyhoeddi ar hyn o bryd yn sôn am fater cynnal a chadw cartrefi.

 

Ariannu

 

13. Mae’r ariannu ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi aros yn gymharol sefydlog. Yn 2011-12 roedd yn £34.9 miliwn ledled Cymru ac roedd yn cynrychioli bron i ddau draean yr holl arian a wariwyd ar adnewyddu’r sector preifat yn ystod 2011-12. Mae’n rhaid gweld unrhyw gynigion i wella gwasanaethau addasu yng nghyd-destun yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Nid yw’r arian ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl wedi’u neilltuo ac mae’n dod o Gyllid Cyfalaf Cyffredinol heb ei neilltuo’r awdurdodau lleol.

 

§  Pa effaith y mae llai o adnoddau ar gyfer tai’n debygol o’i chael ar ddarparu addasiadau cartrefi;

 

14. Mae’n bwysig nodi nad Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r cyllidebau ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ledled Cymru. Mater i’r awdurdodau lleol unigol yw pennu faint i’w ddyrannu at ddibenion addasu. Mae’r Grantiau’n dal i fod yn hawl gorfodol ond gyda mwy o bwysau ar gyllidebau, bydd yn rhaid i wariant ar addasiadau gystadlu hyd yn oed yn fwy â blaenoriaethau eraill yr awdurdod lleol. Fel hawl gorfodol, bydd gwariant ar y Grantiau wedi’i warchod i ryw raddau ond efallai bydd effaith ar weithgareddau eraill fel grantiau i wella cartrefi a ffurfiau eraill ar gymorth i berchnogion tai. Gallai fod effaith ar restrau aros oherwydd bod gwasgfa ar adnoddau a bydd yn rhaid rheoli’r rhain yn ofalus. O dan yr amgylchiadau economaidd presennol bydd hi’n anochel fod awdurdodau lleol yn canolbwyntio ar eu dyletswyddau statudol a bydd hyn yn cynnwys darparu Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl.

 

15. Mae hyn yn rhan o’r rheswm pam mae arian ychwanegol ar gyfer Grant Byw’n Annibynnol wedi’i ddarparu fel y nodwyd uchod. Cyflwynwyd y grant ar sail untro ond rydyn ni wedi gallu darparu £2.5 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf i helpu i liniaru effeithiau’r toriadau mewn cyllid. Mae’r cyllid ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Brys wedi’i warchod hefyd er mwyn cynnal effaith y gwasanaeth pwysig hwn. At hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i leihau effaith y toriadau i’r gyllideb ar Gofal a Thrwsio ac mae wedi gwarchod asiantaethau gwasanaethau’r rheng flaen rhag effaith y toriadau yr oedd yn rhaid eu gwneud.

 

§  Ydy Llywodraeth Cymru’n monitro darpariaeth gwasanaethau addasu’n effeithlon;

 

16. Mae’r Dangosydd Perfformiad Statudol a nodwyd uchod yn rhoi gwybodaeth am gyflenwi Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Hefyd cawsom wybodaeth fanwl am y gwariant arnyn nhw drwy fwletinau ystadegol y mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chynghori’r Llywodraeth yn eu paratoi. Mae addasiadau’n bwnc rheolaidd wrth drafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phanel Technegol Penaethiaid Iechyd Amgylcheddol Cymru gyfan.

 

17. Hefyd mae fy swyddogion yn cael diweddariadau ac adroddiadau am gyflenwi’r Rhaglen Addasiadau Brys a niferoedd y bobl sy’n cael help gwasanaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru. Yn wir, mae’r wybodaeth olaf yn rhan o ddangosyddion olrhain ein Rhaglen Lywodraethu. At ei gilydd, rydyn ni’n casglu llawer iawn o wybodaeth sy’n llywio polisi ar addasiadau ac sy’n ein helpu i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithlon.

 

§  Beth arall y mae angen ei wneud i wella gwasanaethau addasu cartrefi yng Nghymru.

 

18. Er fy mod i’n cydnabod bod gwasanaethau’n amrywio ledled Cymru, gwnaed gwelliannau i gyflenwi’r gwasanaethau a chredaf fod angen pwysleisio hyn. Rydyn ni mewn sefyllfa well o lawer nag yr oeddem ynddi yn 2006, er enghraifft, ac mae straeon cadarnhaol iawn i’w hadrodd. Ond, rwy’n cydnabod bod angen inni ystyried cyflenwi gwasanaethau ac addasiadau’n gyffredinol. Dyna pam cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, yn y Papur Gwyn ar dai, y byddai adolygiad o’r amrediad o raglenni cymhorthion ac addasiadau i weld a oes lle i wneud gwelliannau pellach.

 

19. Er i seminar ddigwydd lle bu adrannau tai a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, Gofal a Thrwsio, Therapyddion Galwedigaethol ac eraill â diddordeb yn trafod trefniadau’r ddarpariaeth bresennol, mae’r adolygiad wedi’i ddal yn ôl tan i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyhoeddi ei ganfyddiadau o ganlyniad i’r ymchwiliad hwn. Roedd gwneud hyn yn ymddangos yn ddoeth ac yn gall.

 

20. Un o’r pethau pwysicaf y gellir eu gwneud o ran gwella’r gwasanaeth presennol yw pwysleisio o’r newydd bwysigrwydd gweithio corfforaethol ar ran yr awdurdodau lleol o ran addasiadau. Mae angen inni bwysleisio’r ffaith fod hwn yn fater allweddol a gall fod lle i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydweithio â ni i gyflwyno’r neges hon yn gryfach. Wrth gwrs, mae meysydd lle mae’r dull corfforaethol angenrheidiol yn gweithio’n dda ac efallai mai dim ond mater o rannu arfer dda ar nifer o lefelau yw hi.

 

21. Mae straeon cadarnhaol i’w hadrodd ac mae’n llawer rhy hawdd ymhelaethu ar rai agweddau negyddol ar y gwasanaethau sy’n cael eu rhoi ar hyn o bryd. Gobeithio y gallwn wneud gwelliannau pellach i’r system bresennol fel bod y gwasanaethau’n cael eu gwella i Ddinasyddion Cymru.

 

 

Carl Sargeant

Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Llywodraeth Cymru